Ysgol Tang Soo Do Aberdâr yn Helpu i Ddiogelu'r Gymraeg yn Y Wladfa, Patagonia


Penywuan Students

Disgyblion Ysgol Tang Soo Do Penywaun Aberdār

Mae disgyblion Ysgol Tang Soo Do Penywaun Aberdâr yn gyfarwydd âg amddiffyn eu hunain. Mae’r ysgol yn Ne Cymru yn un o rwydwaith o ysgolion Tang Soo Do sy’n perthyn i’r Ffederasiwn Tang Soo Do Rhyngwladol, sy’n dysgu’ r technegau hunan amddiffyn Coreaneg i ddisgyblion o bob oed dros y byd er mwyn iddynt wynebu sialensau bywyd. Nawr mae disgyblion ysgol Aberdâr yn troi eu sgiliau at helpu i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg yn Y Wladfa, Patagonia.

patagonia.jpg

Map o'r Ariannin a'r Wladfa

Tra’n ymweld â Phatagonia cyn y Nadolig, darganfuodd Siân Moran, hyfforddwr Ysgol Tang Soo Do Aberdâr, bod tref ac ardal Aberdâr wedi chwarae rhan pwysig yn hanes y Wladfa. Ymysg y 150 o Gymry Cymraeg a hwyliodd i fywyd newydd ym Mhatagonia ar fwrdd y Mimosa ym 1865 yr oedd bron 50 o bobl, o ardal Aberdâr. Yn eu plith oedd Abraham Mathews y gweinidog ifanc a dyfodd yn aelod blaenllaw o‘r Wladfa ac a aeth ati i annog mwy o Gymry i ymfudo yno er mwyn ehangu’r gymuned o siaradwyr Cymraeg.

Er bod y Gymraeg yn Y Wladfa bellach yn cael ei siarad gan leiafryf fel ail-iaith, mae nifer o gynlluniau ar waith i geisio sicrhau ei dyfodol yno. Un o’r ffyrdd yw darparu addysg Gymraeg i blant. Fel y dywed arwyddair Coleg Camwy Y Gaiman sy’n dal i ddysgu Cymraeg fel rhan o’i chwrs addysg: “Goreu Arf, Arf Dysg”. Felly, mae’r disgyblion Tang Soo Do yn bwriadu codi arian trwy gydol 2008 er mwyn helpu i sicrhau dyfodol yr iaith ym Mhatagoni trwy ffyrdd addysgiadol.

Library Management Committee.jpg

Sandra Day a phwyllgor reolaeth Llyfrgell Richard Berwyn Jones



Foundation Stone.jpg

Fel cam cyntaf, mae’n nhw wedi anfon 30 llyfr Cymraeg gwerth dros £200 at Sandra Day yn Llyfrgell Ricardo Berwyn y Gaiman er mwyn dechrau casgliad o lyfrau Cymraeg. Trwy lwc, bydd y llyfrau i gyd yn cyrraedd cyn y Pasg, diolch i Meirion Davies o Fenter Iaith Conwy. Mae Meirion yn mynd draw i sefydlu Menter Y Wladfa gyda nifer o weithwyr a gwirfoddolwyr, ac fe gytunodd y byddent yn cludo ychydig o lyfrau yr un draw er mwyn arbed costiau.

Trwy gydol 2008 fe fydd disgyblion Tang Soo Do Aberdâr hefyd yn noddi un o ysgolion Cymraeg Y Wladfa, sef Ysgol Yr HendreTrelew. Nid yw’r ysgol hon yn derbyn cymorth cyllidol o’r awdurdod lleol i dalu cyflogau'r athrawon ac i brynu adnoddau. Heb unrhyw gymorth, mae'r ysgol felly yn dibynnu ar rieni'r plant eu hunian am gyfraniadau. Felly, ar ddydd Sul Chwefror 17eg bu disgyblion Siân Moran yn wynebu her gwahanol iawn i’r arfer wrth iddynt cael eu noddi nid yn unig i fynychu’r wers a oedd yn cael ei chynnal tryw gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd i siarad am eu hunain am ddwy funud yn y Gymraeg. Sialens mawr oedd hyn iddynt gan eu bod yn mynychu ysgolion Saesneg yn Aberdâr. Cawsant hwyl mawr wrth ddilyn cyfarwyddiadau eu hyfforddwr ac roedd hi’n amlwg eu bod nhw wedi gwneud ymdrech da iawn i baratoi. Roedd un ohonynt hyd yn oed yn cyfathrebu cystal â siaradwr rhugl.

youngest school children and teachers of Ysgol yr Hendre Trelew

Athrawon a phlant iau Ysgol Yr Hendre Trelew Chubut Patagonia

O ganlyniad, fe fydd y £200 a godwyd yn sicrhau y bydd yr athrawon yn cael eu cyflogi am o leiaf mis Mawrth. Mae costau bywyd a chyflogau yn lawer llai yn yr Ariannin ac felly mae hyd yn oed swm weddol fach yma yn werth llawer mwy yno. Fe fydd yr arian yn cyrraedd mewn pryd i’r Ysgol ddathlu ei thrydydd penblwydd ar Fawrth y 6ed.

Older children of Ysgol yr Hendre Trelew

Athrawon a phlant hŷn Ysgol yr Hendre Trelew yn Dathlu

Os hoffech helpu Ysgol Tang Soo Do Penywaun Aberdâr i godi arian i Ysgol yr Hendre, neu anfon rhodd ariannol eich hunan, neu angen mwy o wybodaeth am Tang Soo Do trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â Siân Moran : Ffôn 01639 710595, e-bost sian.moran@tangsoodo.co.uk neu galwch draw i Ganolfan y Gymuned, Stryd Gwladys Penywaun Aberdâr unrhyw nos Sul 6-7.30 neu nos Fercher 7-8.30.